Skip to main content

Pecyn cymorth ar ofal cwsmeriaid sy'n ystyriol o drawma: Creu amgylchedd tosturiol a chynhwysol i bawb


Read in English

Pam mae arferion sy'n ystyriol o drawma yn bwysig mewn lleoliadau sy’n darparu gwasanaethau ariannol a gwasanaethau i gwsmeriaid

Mae trawma yn fwy cyffredin nag sy'n cael ei gydnabod yn aml. Mae'n debygol y bydd y rhan fwyaf ohonom yn profi digwyddiad y gellid ei ystyried yn drawmatig yn ein bywydau, ond ni fydd y profiad hwnnw yn effeithio ar bob un ohonom yn yr un ffordd. Mae ymchwil yn awgrymu y bydd 50-70% o bobl yn profi trawma ar ryw adeg yn eu bywydau1.

Gall effeithiau trawma yn amrywio'n helaeth, ond os nad awn ni i’r afael ag ef, mae’n gallu aros gyda ni a dylanwadu'n sylweddol ar ein meddyliau, ein teimladau a'n hymddygiad tuag atom ni ein hunain ac eraill. Mae'n siapio sut rydyn ni’n ymgysylltu â phobl ac yn ymateb i sefyllfaoedd, ac mae hyn yr un mor berthnasol i gwsmeriaid ag y mae i staff mewn lleoliad sy’n darparu gwasanaeth ariannol neu wasanaeth i gwsmeriaid.

Bydd gan bob cwsmer hanes nad ydych chi’n gallu ei weld. Mae defnyddio dull sy'n ystyriol o drawma mewn lleoliadau sy’n darparu gwasanaethau ariannol a gwasanaethau i gwsmeriaid – yn enwedig dull sydd wedi'i lunio gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o drawma a digartrefedd – yn sicrhau bod pobl yn gadael yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu deall, eu cefnogi a'u bod mewn rheolaeth dros eu cam nesaf, beth bynnag fo’u profiadau yn y gorffennol neu'r presennol.

Mae mabwysiadu dull tosturiol sy'n ystyriol o drawma yn gwella'r berthynas â chwsmeriaid ac yn cryfhau'r ymgysylltu yn y tymor hir. Mae hefyd yn creu amgylchedd cynhwysol, gan wneud mynediad a chymorth yn fwy teg. Mae cwsmeriaid sy'n teimlo eu bod nhw’n cael eu parchu a'u deall yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau eto, a’u hargymell.

Yn yr un modd, bydd staff sy'n teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi yn teimlo'n fwy hyderus a gwydn wrth ryngweithio, ac yn fwy tebygol o aros – sy’n helpu sefydliadau i leihau trosiant staff a chadw eu profiad gwerthfawr. I fusnesau, gall olygu cyfraddau cwyno is a mwy o enw da ymysg y cyhoedd.

Y Pecyn Cymorth: Seiliedig ar brofiad bywyd

Mae'r pecyn cymorth hwn wedi cael ei gyd-gynhyrchu gan bump o Arbenigwr-drwy-brofiad Crisis – sef pobl sydd wedi byw drwy drawma a digartrefedd. Penderfynodd yr arbenigwyr hyn ar y chwe thema graidd, y cynnwys, a'r negeseuon roedden nhw’n teimlo sydd bwysicaf i staff eu deall wrth ddarparu gwasanaethau ariannol a gwasanaeth i gwsmeriaid.

Y nod.

  • Helpu staff i ddeall effaith trawma yn well a darparu ffyrdd ymarferol o gefnogi pobl sydd wedi profi trawma a digartrefedd.
  • Sicrhau bod staff yn ymateb i gwsmeriaid sydd dan straen gydag amynedd ac empathi, gan adnabod arwyddion – megis bod yn ddig, yn dawedog, neu’n bryderus – fel ymatebion i straen yn hytrach nag ymosodiadau personol, er mwyn tawelu sefyllfaoedd yn effeithiol.
  • Lleihau gorweithio a syrffed tosturi (compassion fatigue) ymysg staff drwy eu hyfforddi i adnabod ymatebion i drawma, a fydd yn meithrin gweithlu iachach sy'n darparu gwell gwasanaethau ac yn gwella cyfraddau cadw staff.
"Rwy'n dawel hyderus ac yn hynod obeithiol y bydd y pecyn cymorth yn cael derbyniad da. I’r rhai sy'n dioddef – boed hynny'n ariannol, yn emosiynol, yn feddyliol neu'n gorfforol – rydw i wir yn credu y gallai hwn newid y ffordd y mae unigolion yn edrych ar ei gilydd a’u helpu i ddeall yr hyn y mae pobl yn mynd drwyddo. Ac os nad yw’n cael yr effaith honno, mae ganddyn nhw becyn cymorth y gallan nhw ei ddilyn!

Louis – Arbenigwr-drwy-brofiad

“Rwy'n gobeithio y bydd pobl sy'n darllen y pecyn cymorth yn dysgu empathi a thosturi, ac yn cydnabod y gall pobl fod yn dal i gario trawma – hyd yn oed pan maen nhw’n edrych yn iawn – a pha mor bwysig yw bod yn ystyriol ac yn gymwynasgar er mwyn gwneud pethau'n haws i bobl.”

Sahar – Arbenigwr-drwy-brofiad

 

1 https://www.ptsduk.org/ptsd-stats/


Related Content


Sign up to find out more about the Homelessness Alliance and to play an integral role in the movement to end homelessness in the UK.


If you have seen someone sleeping rough and would like to help, find out how you can provide support.


Find out how your organisation can partner with Crisis.

;