Skip to main content

Pecyn cymorth ar ofal cwsmeriaid sy'n ystyriol o drawma

Creu amgylchedd cynhwysol a thosturiol i bawb.

Darllen y pecyn cymorth yn Gymraeg

Sut gall y pecyn cymorth hwn helpu

Mae defnyddio dull tosturiol sy'n ystyriol o drawma mewn gwasanaethau ariannol a gwasanaethau i gwsmeriaid yn helpu i greu amgylchedd cynhwysol sy'n arwain at fwy o degwch o ran mynediad a chymorth. Mae cwsmeriaid sy'n teimlo eu bod nhw’n cael eu parchu a'u deall yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau eto, a’u hargymell. Yn yr un modd, bydd staff sy'n teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi yn teimlo'n fwy hyderus a gwydn wrth ryngweithio, ac maen nhw’n fwy tebygol o aros – sy’n helpu sefydliadau i leihau trosiant staff a chadw eu profiad gwerthfawr. I fusnesau, gall hefyd olygu cyfraddau cwyno is a mwy o enw da ymysg y cyhoedd.

Darllenwch y BLOG yma

 

Sut i ddefnyddio ein pecyn cymorth ar ofal cwsmeriaid sy'n ystyriol o drawma

Bydd y pecyn cymorth hwn yn eich helpu i ddeall y cysylltiadau rhwng digartrefedd a thrawma, ac yn eich galluogi i gymryd y camau cyntaf tuag at ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid sy'n ystyriol o drawma.

Byddem yn argymell eich bod yn darllen yr esboniadau ar gyfer pob pwnc cyn gwylio'r fideos, ac yna defnyddio'r rhestr wirio i feddwl am eich gwasanaethau fel y maen nhw ar hyn o bryd, a'r hyn y gallwch ei wneud i weithio mewn ffordd sy'n fwy ystyriol o drawma.

Dyma'r adnoddau sydd ar y dudalen hon:

  1. Pam ei bod yn bwysig gweithio mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma
  2. Sut mae profiadau negyddol i gwsmeriaid yn gwneud i rywun deimlo
  3. Cyswllt cyntaf a chyfathrebu
  4. Hygyrchedd ac amgylchedd
  5. Hyfforddiant ar fod yn ystyriol o drawma
  6. Gwasanaeth i gwsmeriaid ac ôl-ofal

 

Darllen y pecyn cymorth yn Gymraeg

Pecyn cymorth ar ofal cwsmeriaid sy'n ystyriol o drawma

1. Pam ei bod yn bwysig gweithio mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma

Mae defnyddio dull tosturiol sy'n ystyriol o drawma yn gwella'r berthynas â chwsmeriaid ac yn cryfhau'r ymwneud yn y tymor hir. Bydd gweithio fel hyn hefyd yn helpu i greu amgylchedd cynhwysol sy'n arwain at fwy o degwch o ran mynediad a chymorth.

 

Lawrlwytho’r adnoddau PDF

2. Sut mae profiadau negyddol i gwsmeriaid yn gwneud i rywun deimlo

Gall profiad negyddol o wasanaeth i gwsmeriaid gael effeithiau sylweddol a pharhaol. I bobl sydd wedi wynebu heriau fel trawma a digartrefedd, gall profiad negyddol fod yn fwy na dim ond anhwylustod. Bydd yn dylanwadu ar farn cwsmer am y busnes a gall achosi emosiynau niweidiol sy'n gallu effeithio ar les corfforol a meddyliol pobl.

 

Lawrlwytho’r adnoddau PDF

3. Cyswllt cyntaf a chyfathrebu

Mae cyswllt cyntaf a chyfathrebu effeithiol ym maes gwasanaethau ariannol a gwasanaethau i gwsmeriaid yn bwysig i gwsmeriaid a allai fod wedi wynebu trawma a digartrefedd. Bydd yr ymwneud cyntaf yn penderfynu a yw cwsmer yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi a’i rymuso, yn hytrach na chael ei farnu.

 

Lawrlwytho’r adnoddau PDF

4. Hygyrchedd ac amgylchedd

Gall amgylcheddau gwasanaeth i gwsmeriaid godi braw ar bobl a bod yn ormod iddyn nhw. Gall creu amgylchedd tawel, hygyrch a chefnogol sy'n agored i bawb wneud gwahaniaeth sylweddol i'r profiad. Mae'n creu lle diogel lle gall rhywun ymddiried yn y bobl sydd ynddo, yn ogystal â hyrwyddo cynhwysiant, annog ymwneud a helpu pobl i gael sefydlogrwydd eto.

 

Lawrlwytho’r adnoddau PDF

5. Hyfforddiant ar fod yn ystyriol o drawma

Mae recriwtio'r bobl iawn a darparu hyfforddiant effeithiol i staff yn hanfodol i gefnogi llesiant staff, ochr yn ochr â sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwasanaeth effeithiol a chefnogol sy’n dangos parch. Mae busnesau'n elwa o well boddhad ymysg gweithwyr, cysylltiadau cryfach â chwsmeriaid, a gwasanaethau cynhwysol, mwy effeithlon sy'n diwallu anghenion eu holl gwsmeriaid.

 

Lawrlwytho’r adnoddau PDF

6. Gwasanaeth i gwsmeriaid ac ôl-ofal

Mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid yn teimlo dan fygythiad neu bwysau mewn rhai sefyllfaoedd, a gallai hyn gael ei gyfleu mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys pryder, diffyg ymddiriedaeth, cwsmer yn mynd i'w gragen, ac anawsterau cyfathrebu. Mae sylwi ar yr ymatebion hyn, deall anghenion unigol cwsmeriaid ac addasu unrhyw ryngweithio yn unol â hynny yn gallu gwella profiad cwsmeriaid a staff yn sylweddol.

 

Lawrlwytho’r adnoddau PDF

Cynnwys cysylltiedig

;