Cymraeg /Â English
Gwelwyd cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf i wella’r gyfraith yng Nghymru, ond ar hyn o bryd mae rhai pobl yn dal i golli allan ar gymorth tai.
Nid yw ond yn iawn i bobl sy’n ddigartref gael yr help y mae arnynt ei angen. Â
Yn y cyfnod cyn etholiadau'r Senedd eleni, rydym wedi bod yn galw ar bleidiau gwleidyddol yng Nghymru i ymrwymo i newid y gyfraith a sefydlu'r polisïau a dulliau gweithredu lleol sydd eu hangen i roi terfyn ar ddigartrefedd. Anfonodd cefnogwyr Crisis 18,740 o e-byst at ymgeiswyr Senedd ym mhob etholaeth a rhanbarth yng Nghymru fel rhan o’n hymgyrch #NebHebHelp, yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i sicrhau bod neb heb help digartrefedd.
Dydy yr ymgyrch ddim yn dod i ben yma. Gwnewch yn siwr bod chi wedi tanysgrifio fel e-ymgyrchydd i gael y wybodaeth diweddaraf am sut i ymuno a'r galwad am newid i'r gyfraith i gadarnhau does neb yn gwynebu'r digartrefedd sydd heb help.
Dychmygwch eich bod chi’n wynebu digartrefedd yng Nghymru. A fyddech chi’n cael eich gadael heb gymorth neu ydych chi’n gallu cael cymorth gan eich cyngor i ddod o hyd i gartref sefydlog?
Penderfynwch chiÂ
Â